Athrawon

 

FFEITHIAU AM EPILEPSI

  • Mae un o bobl ugain o bobl yn cael trawiad
  • Epilepsi yw y cyflwr ymennydd difrifol mwya cyffredin ym Mhrydain gan fod un o bob 130 o bobl yn diodde.  Mae dros ugain mil o bobl yn diodde yng Nghymru
  • Mae cant o bobl yn darganfod ei bo yn diodde bob diwrnod ym Mhrydain
  • Gwrthdaro cemegol anghyffredin yn ymennydd y pen sy’n achosi trawiad
  • O’r tri chan mil sy’n diodde canran bach iawn sy’n ffotosensitif

CANLLAW I ATHRAWON

Pam?

Fe fydd y mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc gydag epilepsi yn cael eu haddysg o fewn ysgolion ffrwd arferol.  Mae’n debygol iawn, felly, y bydd pob athro yn dod ar draws epilepsi ryw bryd yn ystod ei yrfa.

Ni fydd rhieni, bob amser, yn gadel i’r ysgol wybod – efallai nad ydynt yn gwybod eu hunain – efallai mae’r athro fydd y person cyntaf i sylweddoli fod gan bentyn epilepsi.  Ni ellir gôr bwysleisio rôl yr athro wrth helpu disgyblion i dderbyn y cyflwr yn synhwyrol.

Beth yw epilepsi?

Epilepsi yw tueddiad i gael ffitiau neu drawiadau rheolaidd, mae’r ddau beth yn debyg iawn – sef aflonyddwch byr, heb ei bryfocio, o ymwybyddiaeth, ymddygiad, canfyddiad, swyddogaeth echddygol neu synhwyriad.  Mae’n digwydd oherwydd anghydbwysedd cemegol o fewn yr ymennydd, sy’n golygu fod negeseuon trydanol yr ymennydd yn cael eu drysau.  Gall yr anghydbwysedd yma ddigwydd o fewn unrhyw ran o’r ymennydd neu yn yr ymennydd i gyd ar unwaith.

Pa effaith a gaiff ar blentyn?

Mae epilepsi  yn achosi i blentyn gael trawiadau.  Ar wahân am hyn, gyda rheolaeth synhwyrol o fewn y cartref ac yn yr ysgol, ni ddylai epilepsi gael unrhyw effaith o gwbl ar blentyn.  Os y bydd trawiad yn digwydd, fe fydd ymateb tawel yr athro yn pennu  agwedd y dosbarth. Fe fydd gwybod sut i ddelio gyda thrawiadau yn dileu ofnau ag embaras.  Mae math, a nifer o gerwindeb trawiadau yn amrywio, ac mae gan bob plentyn angen am ddealltwriaeth unigol.

Meddyginiaeth

Fe gaiff tabledi, capsiwlau neu surop eu pennu er mwyn adeiladu gwrthwynebiad cemegol i ‘stiumuli’ a all ddechrau neu achosi trawiad.  Mae’n holl bwysig fod y plentyn yn cymryd y feddyginiaeth a gaiff ei bennu gan meddyg. Os bydd trawiadau yn cynyddu, neu os ydi’r plentyn yn ymddangos yn gysglyd, ddim yn cymryd sylw, neu yn orfywiog, dylech drafod y mater gyda’r rhieni a thîm iechyd yr ysgol.

Dylai’r holl staff, athrawon ac eraill, unai wybod beth i’w wneud os digwydd trawiad neu pwy i gysylltu am gymorth.

Gall epilepsi niweidio, neu newid personoliaeth?

Na, nid yn ei hun, ond fe achosir) gwaelod yr anhwyldeb gael effaith mewn rhai achosion.  Ffactorau eraill a all gael effaith ar ddatblygiad y plentyn yw, gor-amddiffyn, gor-ddisgwyliadau, gwrthodiad a chamddealltwriaeth.  Nid yw’n syniad da i orlwytho plant gydag epilepsi y tu fewn neu y tu allan i’r ysgol.  Dylid ymdrin a hwy yn union fel unrhyw blentyn arall yn y dosbarth.  Ni ddylid lleihau ar ddisgyblaeth o fewn yr ystafell ddosbarth oherwydd ofnau ynghylch ambell trawiad, cyn belled fod y posibilrwydd y gall y trawiadau ddigwydd heb i neb sylwi, cael ei gymryd i ystyriaeth.

SUT I GALL ATHRAWON HELPU

Dylech osgoi defnyddio y label ‘epileptig’.  Trawiadau sy’n epileptig, nid plant.  Mae’r label yn cymylu hunaniaeth y plentyn.

Dylech drin a thrafod plentyn gydag epilepsi yn yr un modd ag yr ydych yn trin plant eraill yn y dosbarth,  Ni ddylid lleihau disgyblaeth o fewn y dosbarth oherwydd ofnau ynghylch cymell trawiad.

Mae’n bwysig eich bod yn delio gyda thrawiadau yn dawel ac yn gymwys.

Mae nifer o blant yn perfformio islaw eu gallu a hynny am nad yw eu gallu addysgol yn cael ei lawn werthfawrogi ac yn derbyn sialensiau sydd yn annigonol.  Mae gwelliannau yn bosib gydag amser ychwanegol a chefnogaeth.

Gall diflastod gymell trawiadau. Mae gan blant gydag epilepsi angen am amserlen lawn.  Peidiwch a gadael iddynt ddefnyddio epilepsi fel esgus.

Derbyniwch y plentyn gydag epilepsi fel aelod cyffredin o’r dosbarth.

Cadwch cyfyngiadau i isafswm. Dylid rhoi pwyslais ar beth y gall y plentyn ei wneud.  Gofynnwch am gyngor meddygol ynghylch  gweithgareddau addas i bob plentyn gydag epilepsi.

Byddwch yn wyliadwrus ynghylch ceryddu plentyn am bensynnu.  Efallai fod ei allu i ganolbwyntio yn fratiog.

Eglurwch epilepsi i’r plentyn a’r dosbarth.  Fe fydd pob disgybl yn dysgu i ddeall a derbyn y cyflwr yn synhwyrol.

CYMORTH CYNTAF

Mae ymateb a chymhwysedd yr athro yn ffactor bwysig iawn o’r modd y mae’r dosbarth yn derbyn y trawiad. Mewn trawiad an-nirdynol, dealltwriaeth a dynesfa digyffro yw’r cyfan sydd ei angen. Gyda thrawiad ‘tonic clonic’ (gweler ein taflen Gwybodaeth Cyffredinol werdd), fe fydd disgyblion yn ymateb i ymddygiad tawel yr athro.

GWEITHGAREDDAU YSGOL

Dylid cymryd penderfyniadau ar ôl trafodaeth gyda rhieni a chynghorwyr meddygol, ond fe fydd unrhyw waharddiad ar y plentyn gydag epilepsi yn gwneud i’r plentyn deimlo ac ymddangos yn wahanol.  Er, efallai, y byddai yn annoeth i adael i blentyn ddringo rhaff a bariau wal os oes yna hanes o drawiadau rheolaidd anrhagweladwy, gyda gwyliadwriaeth ddigonol, ni ddylid gwahardd ond ychydig o weithgareddau.  Ni ddylai nofio greu unrhyw broblem a dylid ei annog, cyn belled fod yna rhywun yn y dwr i ddelio gydag achubiaeth uniongyrchol os bydd angen.  Gall rhai trawiadau ddechrau o ganlyniad i oleuadau sy’n fflachio neu yn crynu.  (Gweler ein taflen ar ffotosensitifedd.)

GYFAROEDD

Dylai athrawon sydd yn rhoi cyngor ar yrfaoedd wybod, nid yn unig am alluoedd academaidd a chymdeithasol y person ifanc, ond hefyd am natur ag amlder eu trawiadau.  Mae’r mwyafrif o yrfaoedd ar agor i fwyafrif o bobl ifanc gyda’r cymwysterau angenrheidiol a hyfforddiant, ond mae’r lluoedd arfog, heddlu a’r llynges fasnachol yn annhebygol o dderbyn rhywun sydd a hanes o drawiadau.  Yn ôl y gyfraith, ni chaiff rhywun sydd wedi cael trawiad, ers ei benblwydd yn 5 mlwydd oed, yrru cerbydau nwyddau trwm a gwasanaethau cyhoeddus.

Comments are closed.