Cymorth Cyntaf

  

A YW POB FFIT EPILEPTIG YR UN FATH?

Mae llawer math gwahanol o ffit epileptig a bydd y camau angenrheidiol yn ystod ac ar ôl ffit yn dibynnu ar y math o ffit. Gall rhai pobl gael mwy nac un math o ffit. Mae rhai pobl yn cael ffitiau yn eu cwsg yn unig.

SUT I REOLI FFIT DDIRDYNNOL

(tonig clonig neu glonig – a adwaenid gynt fel Grand Mal) Mae’r rhan fwyaf o ffitiau yn digwydd yn ddirybudd, yn para amser byr yn unig ac yn stopio heb driniaeth arbennig. Gall anafiadau ddigwydd, ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn cael niwed mewn ffit, a does dim rhaid iddynt fynd i’r ysbyty na gweld meddyg. Pan gaiff rhywun ffit ddirdynnol, efallai y torrir ar eu patrwm anadlu arferol a gallant droi’n las, yn enwedig o gwmpas y gwefusau. Er y gall hyn godi dychryn o’i weld, nid yw fel arfer yn argyfwng meddygol. (Mae mwy o fanylion am hyn isod).

 

BETH I’W WNEUD YN YSTOD FFIT DDIRDYNNOL

  • Cadwch bobl eraill draw.
  • Rhowch rywbeth meddal dan ben yr unigolyn i’w atal rhag brifo.
  • Symudwch yr unigolyn yn unig os yw mewn lle peryglus, e.e. ar y ffordd, ar ben grisiau.
  • Symudwch ddodrefn a phethau oddi wrth yr unigolyn, nid y ffordd arall.
  • Peidiwch â cheisio cyfyngu ar y symudiadau dirdynnol. Gadewch i’r ffit ddirwyn i’w phen.
  • Peidiwch â rhoi dim yng ngheg yr unigolyn. Does dim perygl o lyncu’r tafod, ac fe allech dorri dannedd.

PAN FYDD Y FFIT DROSODD

  • Rholiwch yr unigolyn ar ei ochr, os oes modd, i’r ystum adferol.
  • Sychwch unrhyw boer ac os yw’r anadlu’n dal yn drwm, gofalwch nad oes dim yn cau’r llwnc megis dannedd gosod neu fwyd.
  • Ceisiwch osgoi codi cywilydd ar yr unigolyn. Os yw wedi gwlychu neu faeddu, deliwch â hyn mor breifat ag sydd modd.
  • Arhoswch gyda’r unigolyn i dawelu ei m/feddwl nes dod ati/i ei hun yn llwyr.

 

MAE’N ARGYFWNG MEDDYGOL A DYLID CEISIO HELP MEDDYGOL OS:

  • Anafwyd rhywun yn ddrwg mewn ffit.
  • Cânt drafferth anadlu wedi ffit.
  • Bydd un ffit yn dilyn y llall neu os yw’r ffit yn para mwy na phum munud ac na wyddoch faint y maent yn para fel arfer.
  • Bydd y ffit yn para’n hwy na’r arfer i’r unigolyn hwnnw.

CAMAU AR GYFER MATHAU ERAILL O FFITIAU:

Ffitiau  Rhannol Cymhleth

Daw rhywun yn ddryslyd yn sydyn, crwydro o gwmpas neu edrych fel pe na bai’n gwybod beth mae’n wneud (codi pethau, tynnu dillad, ac yn y blaen):

Peidiwch â cheisio rhwystro’n unigolyn, ond ei d/thywys ymaith oddi wrth berygl megis crwydro i ganol y ffordd; siaradwch yn dawel a di-lol a cheisio ei helpu i ymgyfarwyddo eto mor fuan ag sy’n bosibl.

Ffitiau Rhannol Syml

Yn y mathau hyn o ffit, nid yw’r unigolyn yn colli ymwybyddiaeth ac mae’n gwybod beth sy’n digwydd. Fodd bynnag, gall effeithiau’r ffit beri loes i’r sawl sy’n eu dioddef ac efallai y bydd angen cysur a sicrwydd. Os mai rhybudd yw’r math hwn o ffit (a elwir weithiau yn awra) y bydd ffit ddirdynnol yn dilyn, efallai y bydd  angen helpu’r dioddefwr i fod mor ddiogel ag sydd modd cyn i’r ffit ddigwydd.

 Ffitiau Tonig ac Afonig

Yr unigolyn yn syrthio ac yna’n dod ato’i hun yn ddryslyd neu beidio. Rhowch sicrwydd iddynt, gofalu nad yw wedi anafu ac aros nes iddynt wella’n llwyr.

Ffitiau Absenoldeb  (a adwaenid gynt fel petit mal)

Colli ymwybyddiaeth am fymryn bach. Byr iawn yw parhad y math yma o ffit fel rheol, ond efallai y bydd angen tywys i ffwrdd o unrhyw berygl.

OES FFORDD ARALL I MI HELPU?

Am eu bod yn colli ymwybyddiaeth, mae pobl ag epilepsi yn aml heb wybod beth sy’n digwydd iddynt adeg ffit

Os sylwch, medrwch roi gwybodaeth hanfodol i’r meddyg neu’r niwrolegydd, a all fod yn fuddiol iawn wrth wneud diagnosis o epilepsi a phennu pa fath o ffit sy’n digwydd. Mae hyn yn galluogi’r meddyg i roi’r feddyginiaeth iawn rhag epilepsi.

GALL Y WYBODAETH A GANLYN FOD O HELP FEL HYN:

  • Cadwch gofnod o ddyddiadau ac amser y ffitiau ac am ba hyd.
  • Lle’r oedd yr unigolyn? Beth oedd yn ei wneud?
  • A soniodd yr unigolyn am unrhyw deimlad anarferol?
  • Sylwoch chi ar unrhyw newid tymer?
  • Beth dynnodd eich sylw at y ffitiau?
  • A ddigwyddodd y ffit yn ddirybudd?
  • A fu’r unigolyn yn anymwybodol neu yn ymwybodol wahanol mewn unrhyw ffordd?
  • Wnaeth lliw’r unigolyn newid?
  • A wnaeth unrhyw rannau o’r corff fynd yn dynn, neu blycio? Os felly, pa rannau?
  • Oedd anadlu’r unigolyn yn wahanol?
  • A wnaeth yr unigolyn rywbeth, e.e. mwmial, crwydro o gwmpas, ffidlan â’i dd/dillad?
  • A wnaeth yr unigolyn faeddu neu wlychu ei hun?
  • A frathodd ei d/thafod?
  • Sut oedden nhw wedi’r ffit?
  • Oedden nhw eisiau cysgu? Am ba hyd?
  • Faint o amser oedd hyd nes y medrodd yr unigolyn ailgydio mewn gweithgareddau

Comments are closed.